Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Craffu ar Gyfrifon 2018-19

Argymhellion a gynhwyswyd yn Adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

Argymhelliad 1. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y mesurau angenrheidiol i atal swyddogion rhag gwrthod rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eto (yn gyfrinachol os oes angen) ar y sail na chânt wneud hynny yn ôl y gyfraith (ac yn amlwg yn groes i A4.12.11).

Argymhelliad 11. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hamserlen ar gyfer cyhoeddi ei chyfrifon a’i hadroddiadau blynyddol yn flynyddol i helpu o ran tryloywder a dealltwriaeth o’r broses.

Argymhelliad 12. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor mewn perthynas â’i thrafodaethau â Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnwys y camau y cytunwyd arnynt i ymdrin â’r materion y daethpwyd ar eu traws wrth lunio ac archwilio cyfrifon 2017-18.

Argymhelliad 13. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro, i’r Pwyllgor, yr adnoddau sydd ganddi ar gyfer y broses, yn ogystal ag esbonio sut y mae’n sicrhau bod ganddi ddigon o sgiliau a galluoedd i ddarparu ei chyfrifon blynyddol.

Argymhelliad 14. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn trefnu bod gwybodaeth ariannol fanylach a gwybodaeth am berfformiad ar gael i’r cyhoedd. Dylai hyn gynnwys dadansoddiadau o wariant blynyddol ym mhob Prif Grŵp Gwariant a sut y mae’r rhaglenni hyn yn cyflawni yn erbyn canlyniadau arfaethedig. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth i alluogi’r cyhoedd i weld sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a hefyd adroddiadau am ei pherfformiad yn ystod y flwyddyn i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd.

Argymhelliad 15. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mesurau ar waith i sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg i gyhoeddi ei chyfrifon yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd.

Argymhelliad 16. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr amserlen ar gyfer mynd â pholisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol i’r Bwrdd ac yn rhannu’r canlyniad, yn ogystal â phapurau a drafodir gan y Bwrdd.

Argymhelliad 17. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i gydymffurfio â’r arfer gorau ym maes cyflwyno adroddiadau ariannol drwy gynnwys gwybodaeth am ei pherfformiad a mabwysiadu’r arfer hwn wrth lunio adroddiadau blynyddol a chyfrifon y flwyddyn nesaf, cyn cyhoeddi rhagor o ganllawiau i gyrff a noddir ganddi. Dylai’r adroddiadau blynyddol a’r cyfrifon, o leiaf, nodi sut y mae’r arian wedi’i wario a’r hyn y mae wedi’i gyflawni, gan gyfeirio at y targedau a bennwyd gan Weinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r perfformiad yn eu herbyn. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad o wariant yn erbyn nodau “Ffyniant i Bawb” (a’r rhaglenni dilynol) a thargedau sefydliadol eraill yn y cyfrifon, yn gyson â’r gwariant yr adroddir arno yn y datganiadau ariannol.

Argymhelliad 18. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn glir y gofynion y mae’n anelu at gydymffurfio â hwy wrth lunio ei hadroddiadau blynyddol a’i chyfrifon. Dylai hefyd fod yn glir ynghylch gofynion Cymru ar gyfer Adroddiadau Blynyddol a sicrhau bod pob corff yn cydymffurfio â’r canllawiau hyn, gan gynnwys hi ei hun. Bydd hyn yn helpu i ddarparu gwybodaeth ddigonol a phriodol gan alluogi gwaith craffu effeithiol.

Argymhelliad 19. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried pa wybodaeth y gellir ei chynnwys yn ei chyfrifon er mwyn hyrwyddo tryloywder mewn perthynas â’r cymorth busnes a ddarperir heb ddigalonni darpar fuddsoddwyr.

Argymhelliad 20. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cysylltu â’i chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban i wella ei dealltwriaeth o rinweddau posibl cyflwyno Cyfrifon Llywodraeth Gyfan Cymru ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.

Argymhelliad 21. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhannu â’r Pwyllgor ei chynllun gweithredu ar gyfer lleihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Argymhelliad 22. Mae’r Pwyllgor yn argymell, er mwyn helpu o ran tryloywder a hwyluso gwaith craffu, fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellid cynnwys rhagor o wybodaeth yn ei chyfrifon yn y dyfodol i esbonio diben pecynnau ymadael a/neu gynlluniau diswyddo.

Argymhelliad 23. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth yn ei hadroddiadau blynyddol a’i chyfrifon blynyddol am y gweithgareddau effeithlonrwydd ar draws ei sefydliad. Dylai hyn gynnwys ei halldro yn erbyn y targedau a bennwyd, gydag esboniad lle nad yw nodau perfformiad wedi’u cyrraedd.

Argymhelliad 24. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu, cyn i’r Pwyllgor graffu ar ei chyfrifon ar gyfer 2018-19, ddiweddariad mewn perthynas â gwaith y Bwrdd Gwella Effeithlonrwydd ac, yn benodol, y camau a weithredwyd o ganlyniad i adolygiad Deloitte o’i wasanaethau corfforaethol.

Argymhelliad 25. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn esbonio’r rhesymau dros newid trywydd a sut y mae “menter Diogelu’r Dyfodol” yn wahanol i “Parod at y Dyfodol”, y cynllun a gyflwynwyd gan y cyn Ysgrifennydd Parhaol. Dylai hyn bennu sut y mae’r rhaglen newydd yn gweithio er mwyn gwella effeithlonrwydd y sefydliad, yn ogystal â datblygu ei gapasiti a’i ystwythder.

Argymhelliad 26. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro i’r Pwyllgor ei safbwynt o ran mabwysiadu Proffiliau Llwyddiant Gwasanaeth Sifil y DU a sut y bydd y rhain yn gweithio yng nghyd-destun Cymru, gan gynnwys y berthynas - neu fel arall - rhwng y dull gweithredu hwn a safonau a gwerthoedd ar gyfer hybu mewnol ar raddfeydd porth a ddatblygir gyda mewnbwn Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a pha fframwaith sy’n cael blaenoriaeth.

Argymhelliad 27. Mae’r Pwyllgor yn argymell, er mwyn sicrhau ei bod yn gallu darparu goruchwyliaeth annibynnol a her i’r Weithrediaeth ac osgoi gwrthdaro buddiannau (gwirioneddol neu ganfyddedig), na ddylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ei Chyfarwyddwyr Anweithredol i wneud gwaith y tu hwnt i gwmpas eu rolau anweithredol.

Argymhelliad 28. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn esbonio’n llawn sut y bydd yn cael sicrwydd llawn, wedi’i ddogfennu, am y materion yr adroddwyd arnynt o’r blaen drwy’r weithdrefn galw i mewn.